Search Icon

Dydd Mercher 24 Ionawr 2024

Bwrw golau ar y gwir anghyfforddus am losgi coed

Hyd yn hyn, mae hi wedi bod yn hawdd i gysylltu llewyrch tân neu losgwr coed â chysur, ond mae tystiolaeth newydd wedi darganfod bod llosgi coed yn niweidio eich iechyd, eich waled a’r blaned.

Mae Noson Awyr Lân yn gyfle i chi ddysgu mwy ac i glywed lleisiau arbenigol fydd yn bwrw golau ar fythau llosgi coed mewn fideos fydd yn cael eu rhannu o’r machlud (4:35yh).

Y Noson Awyr Lân hon, dysgwch y gwir am losgi coed a helpwch amddiffyn eich hun, eich teulu a’ch cymuned trwy rannu’r hyn rydych wedi’i ddysgu.

Y dystiolaeth: niwed i’ch waled

Mae llosgwyr coed yn ddrutach i wresogi eich cartref na boileri nwy neu bympiau gwres, oni bai fod gennych fynediad at goetir preifat ac rydych yn gallu fforio eich coed eich hun.1 Gall coed sgrap sydd heb eu sychu na’u sesno’n gywir neu sydd â chotiau megis farnis neu baent fod yn eithriadol o wenwynig pan gânt eu llosgi.

Y dystiolaeth: niwed i’ch iechyd

Llosgi domestig, sy’n cynnwys coed a chyfran fach o lo a ‘thanwyddau di-fwg’ yw’r ffynhonnell unigol fwyaf o lygredd awyr gronynnau bach niweidiol yn y DU, gan wneud mwy na 27% o allyriadau PM2.5.2 Mae hyd yn oed cartrefi â’r llosgwyr coed “ecogynllun” mwyaf newydd dair gwaith yn fwy llygredig na chartrefi hebddynt.3

Po fwyaf o lygredd awyr gronynnau bach niweidiol yr ydych yn agored iddo, y mwyaf tebygol yr ydych o farw o glefyd calon neu ysgyfaint neu ganser yr ysgyfaint. Gall hefyd achosi diabetes, niweidio iechyd eich ymennydd ac arwain at ddementia, ac effeithio ar blant heb eu geni.4 Mae bod yn agored i losgi o dan do yn gallu cynyddu eich risg o ddatblygu canser yr ysgyfaint neu glefyd ysgyfaint.6

Y dystiolaeth: niwed i’r blaned

Nid yw coed yn danwydd carbon niwtral. Am yr un swm o wres neu ynni, mae llosgi coed yn rhyddhau mwy o garbon deuocsid (CO2) nac olew neu nwy.7 Mae’n gallu cymryd degawdau i goed aildyfu ac ailamsugno carbon a allyrrir trwy losgi coed. Mae torri coed ar gyfer tanwydd yn dinistrio coedwigoedd, yn niweidio ecosystemau ac yn arwain at golli bioamrywiaeth.8

Mae dolenni a gwybodaeth bellach ar y wefan hon ar gael yn Saesneg yn unig.