Ydych chi'n gwybod mai llosgi coed yw'r ffordd fwyaf llygredig o wresogi’ch cartref?
Mae mwg o losgi coed yn cynhyrchu llygredd aer gronynnol mân (PM2.5), sy'n mynd i mewn i'ch llif gwaed pan gaiff ei anadlu ac yn gallu achosi clefyd y galon a chlefyd yr ysgyfaint, yn ogystal â chynyddu eich risg o ddatblygu diabetes a dementia.
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod hyd yn oed cartrefi sy'n defnyddio llosgwyr coed "ecoddylunio" newydd deirgwaith yn fwy llygredig na chartrefi sydd heb losgwyr coed. Ac nid yw llosgi coed yn llygru eich cartref chi yn unig – mae'n llygru eich cymuned leol ac yn niweidio iechyd eich cymdogion.
Rydyn ni i gyd eisiau aros yn gynnes y gaeaf hwn, ond ni ddylai aros yn glyd effeithio ar ein hiechyd. Ar Noson Aer Glân (22 Ionawr 2026), rhannwch y ffeithiau am losgi coed gyda'ch ffrindiau a'ch teulu.

Y dystiolaeth: niweidio’ch iechyd
Cynnau tanau yn ein cartrefi yw un o'r ffynonellau mwyaf o lygredd aer gronynnau mân niweidiol yn y DU. 1
Mwya’n byd o lygredd aer gronynnau mân niweidiol rydych chi'n dod i gysylltiad ag e, y mwyaf tebygol ydych chi o farw o glefyd y galon, clefyd yr ysgyfaint neu ganser yr ysgyfaint2 Hefyd, mae'n gallu cynyddu'n sylweddol eich risg o ddatblygu diabetes,3 niweidio iechyd eich ymennydd ac arwain at ddementia,4,5 ac effeithio ar blant sydd heb eu geni.6,7
Pe bai pobl yn y DU yn llosgi coed dim ond pan nad oes ffynhonnell wres arall ar gael, gallai osgoi mwy na 1,500 o farwolaethau yn y DU bob blwyddyn ac arbed dros £54 miliwn i'r GIG mewn costau gofal iechyd.8
Y dystiolaeth: niweidio'r blaned
Nid yw coed yn danwydd carbon niwtral. Ar gyfer yr un faint o wres neu ynni, mae llosgi coed yn rhyddhau mwy o garbon deuocsid (CO2) nag olew neu nwy.9 Mae'n gallu cymryd degawdau i goed aildyfu ac adamsugno'r carbon sy'n cael ei allyrru trwy losgi coed.10,11,12 Mae torri coed ar gyfer tanwydd yn dinistrio coedwigoedd, yn niweidio ecosystemau ac yn arwain at golli bioamrywiaeth.13


Y dystiolaeth: niwed i'ch waled
Mae llosgwyr coed bron bob amser yn ffordd ddrutach o wresogi’ch cartref na phympiau gwres neu foeleri nwy (oni bai eich bod chi'n casglu eich coed eich hun am ddim).14 Mae coed sgrap nad yw wedi'i sychu'n iawn neu sydd â haenau fel farnais neu baent yn gallu bod yn hynod wenwynig pan maen nhw’n cael eu llosgi.
-
Chief Medical Officer’s Annual Report 2022: Air Pollution, UK Government, 2022
-
Health impacts from domestic burning in the UK, Ricardo, 2025
-
A stand of trees does not a forest make: Tree plantations and forest transitions, ScienceDirect, 2016
-
Wood burning is more expensive than central heating, Impact on Urban Health, 2023
Mae dolenni a gwybodaeth bellach ar y wefan hon ar gael yn Saesneg yn unig.





